Llety yn Rhondda Cynon Taf
O eiddo hunan-ddarpar moethus i letyau gwely a brecwast cyfeillgar, mae gyda ni ddigonedd o lefydd ichi aros!
Llety yn Rhondda Cynon Taf
Ble bynnag y byddwch chi'n dewis aros, byddwch chi'n cael croeso cynnes y Cymoedd.
Gallwch fwynhau golygfeydd syfrdanol o'r mynyddoedd a cheffylau'n pori y tu allan i'ch ffenestr yn ein hamrywiaeth o eiddo cefn gwlad sydd wedi'u lleoli'n berffaith ar gyfer crwydro'r ardal leol.
Ymlaciwch yn ein gwestai moethus sy'n cynnwys hen Faenordai, gwestai bwtîc ac encilion yng nghefn gwlad. Byddwch yng nghanol y cyffro gyda gwely a brecwast yng nghanol y dref - neu beth am ddianc rhag y cyfan a mynd i glampio wrth droed mynydd?
Aros yn RHCT
Aros eich ffordd chi!
Ystafelloedd â golygfa braf
Mwynhewch olygfeydd syfrdanol o sir Rhondda Cynon Taf.
Aros mewn lleoliad hanesyddol
Ymlaciwch yn llwyr mewn cartrefi sydd wedi bod yn rhan o'r dirwedd ers canrifoedd.