Teithiau cerdded yn Rhondda Cynon Taf
O deithiau cerdded epig i gopaon ein mynyddoedd, hyd at lwybrau ar lannau afon, ewch yn eich blaenau ar antur!
Darganfyddwch dirweddau trawiadol a hanesyddol ar ein teithiau cerdded.
Dringwch i ben mynyddoedd i fwynhau golygfeydd am filltiroedd a thoriad gwawr neu fachlud bythgofiadwy.
Ewch am dro drwy barciau gwledig godidog a mannau agored, gan ymlwybro ar hyd llynnoedd ac afonydd, neu gamu'n ôl mewn amser drwy safleoedd hanesyddol a thirnodweddion neu lwybrau llafar gyda thywysydd.
Mae teithiau cerdded hir fel arfer dros 10 cilomedr, tra bo'r teithiau cerdded canolig dros 5 cilomedr.