Historic Walks
Mae gan Rondda Cynon Taf hanes a threftadaeth gadarn.
Mae gan Rondda Cynon Taf hanes a threftadaeth gadarn. Mae gyda ni safleoedd diwydiannol a fu'n bwysig yn rhyngwladol ac a fu'n ysbrydoliaeth i Syr Isambard Kingdom Brunel a George Stephenson. Mae olion rhyfeddol yr 'aur du' i'w gweld yma ac eiconau diwylliannol megis cyfansoddwyr Hen Wlad Fy Nhadau, Evan James a James James, yr actor, Glyn Houston ac wrth gwrs, Syr Tom Jones. Dysgwch am chwedlau, cestyll, rhyfelwyr dewr a rhagor ar ein teithiau cerdded treftadaeth. Mae modd dilyn map neu gyfarwyddiadau llafar.