Skip to main content
Darganfod Rhondda Cynon Taf

Darganfod Rhondda Cynon Taf

Mwynhewch dirwedd llawn antur sy'n cynnig profiadau ac atyniadau ar gyfer y teulu oll.

Byddwch yn barod am antur yn y Cymoedd

Mae gan Rondda Cynon Taf dirwedd anhygoel sy'n cynnwys atyniadau a phethau i'r teulu cyfan eu gwneud.

Gwibiwch neu beiciwch ar draws tirweddau sydd wedi'u ffurfio gan dros 100 o flynyddoedd o ddiwydiant ac arloesedd.

Ewch am dro i gopa mynyddoedd rhewlifol a mwynhewch fyd natur ar ei orau yn ein parciau a'n parciau gwledig.

Mwynhewch atyniadau unigryw megis Profiad y Bathdy Brenhinol, Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty a Thaith Pyllau Glo Cymru yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda.