Theatres and Cinemas
Ymlaciwch a mwynhewch sioeau a ffilmiau.
Mae'r ddwy brif theatr yn Rhondda Cynon Taf yn eiconig yn ddiwylliannol ac yn hanesyddol. Cafodd Theatr y Parc a'r Dâr ei hadeiladu gan löwyr lleol ac mae nifer o enwogion o Gymru wedi perfformio yno megis Max Boyce a Tom Jones - mae hefyd modd gweld y llwyfan yn llawn Daleks mewn pennod o Dr Who. Yn Theatr y Colisëwm, Aberdâr cafodd y Stereophonics eu llwyddiant mawr cyntaf ac mae'r digrifwr, Rob Brydon wedi bod yno'n diddanu cynulleidfaoedd! Mae'r ddwy yn adeiladau deniadol a mawr yng nghanol trefi sy'n ffynnu ac maen nhw'n parhau i ddenu sioeau annibynnol a lleol yn ogystal â digrifwyr, cantorion a sioeau cerdd adnabyddus. Mae'r ddwy hefyd yn cynnal nosweithiau sinema. Mae sinema Showcase yn Nantgarw yn dangos pob ffilm newydd ac mae siop Costa Coffee i'w chael ar y safle.