Atyniadau
Ymwelwch â Rhondda Cynon Taf i fwynhau atyniadau arobryn ar gyfer y teulu cyfan.
Mae Rhondda Cynon Taf yn gartref i ystod anhygoel o atyniadau unigryw. Mae rhywbeth ar gael i blant, grwpiau, teuluoedd, pobl sy'n hoff o fwyd, hanes ac adrenalin. Rydyn ni'n gartref i Lido Cenedlaethol Cymru, unig antur Zip World yn ne a chanolbarth Cymru, unig brofiad y Bathdy Brenhinol yn y DU a pharc beiciau disgyrchiant ym Mharc Gwledig Cwm Dâr - y parc beiciau cyntaf i deuluoedd yn y DU. Mae Taith Pyllau Glo De Cymru'n dod â hanes diwydiannol yr ardal yn fyw ac mae Profiad y Bathdy Brenhinol yn gyfle i chi creu eich darn arian eich hun a dysgu beth yw eich pwysau mewn aur.