Skip to main content

Parc Gwledig Cwm Dâr

Dewch i aros yn eich carafán, cartref modur neu fan gwersylla (dim pebyll sori) yng nghanol 500 erw o olygfeydd godidog ym Mharc Gwledig Cwm Dâr.

Mae'r parc yn gartref i Barc Beiciau Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd, y cyntaf o'i fath yn y DU.

Mae croeso i chi ddod â'ch beic eich hun neu logi un o'n beiciau ni ar y safle. Manteisiwch ar y gwasanaeth codi a chario i ben y mynydd a gwibiwch i lawr y llwybrau, gan aros wrth y traciau pwmp ar hyd y ffordd.

Mae yna hefyd faes chwarae antur, caffi ar y safle a llwybrau cerdded a beicio hyfryd.

Mae gan y maes carafanau gyfleusterau cawod a golchi newydd ac mae cysylltiad trydan ar bob un o'r meysydd.

Archebwch yn uniongyrchol trwy Pitch Up 

Ble: Aberdâr, CF44 6PS

Math: Caravan/campervan/motorhome

Sgôr: 3

Cysylltwch â ni

Nodweddion

  • Dogs Welcome
  • Bike Storage
  • Great for walkers
  • Great for cyclists
  • Restaurant