Fernhill Valley Farm
Mewn cornel ddiarffordd o Gwm Rhondda mae maes glampio Fernhill Valley Farm.
Mae pedwar pod hunangynhwysol, pob un â'i ardal eistedd, cegin ac ystafell ymolchi ei hun.
Mae ganddyn nhw batios preifat gyda phyllau tân, felly mae croeso i chi fwynhau brecwast gyda'r wawr neu dostio malws melys o dan y sêr yn y nos.
Saif Fernhill Valley Farm yng nghysgod Mynydd godidog Penpych ac mae Zip World Tower ynghyd â rhai o'r llwybrau cerdded a beicio gorau yn yr ardal ar garreg y drws.
Mae tref Treorci hefyd yn agos, enillydd Stryd Fawr y Flwyddyn ym mhapur yr Independent. Mae gan Dreorci amrywiaeth wych o siopau a lleoedd i fwyta ac yfed.
Mae modd cysylltu â Fernhill Valley Farm yn uniongyrchol i gadw ystafell.
Ble: Blaencwm, CF42 5AX
Math: Glamping, Air Bnb, Self-catering rental
Sgôr: No rating