Forest Lodge
Mae Forest Lodge wedi'i leoli'n uchel yng nghoedwigaeth Llantrisant gyda golygfeydd pellgyrhaeddol.
Gyda chwe ystafell wely, mae digon o le i hyd at 12 person aros. Yn ychwanegol, mae modd ymlacio neu nofio ym mhwll anfeidredd mwyaf Cymru.
Mae tu mewn i'r caban yr un mor arbennig â'r ardaloedd awyr agored, gyda'r drysau deublyg yn agor fel eich bod chi'n gallu edmygu tirwedd Coedwigaeth Genedlaethol Cymru.
Mae hefyd gyfle i uwchraddio'ch arhosiad i gynnwys mynediad i'r sba yng Ngwesty Lanelay Hall sy'n gyfagos. I'r rhai sy'n chwilio am foethusrwydd heb orfod gwneud y llestri, mae modd llogi cogydd personol!
Ble: Talbot Green, CF72 9LA
Math: Self-catering rental
Sgôr: No rating