Gwaelod Y Garth Inn
Mae'r staff yn gwneud popeth i'ch croesawu chi ac i sicrhau eich bod chi'n gyfforddus wrth ymlacio, bwyta ac aros yma.
Caiff gwesteion ddewis o blith nifer o opsiynau bwyta, gan gynnwys yr ystafell fwyta glyd a chroesawgar lan lofft, neu'r bar lawr llawr, lle caiff cŵn sy'n ymddwyn yn dda ymuno â chi. Beth bynnag fo’ch dewis, byddwch chi'n sicr o gael pryd wedi'i baratoi gan ddefnyddio'r cynnyrch lleol ffres gorau.
Mae ystafelloedd Gwaelod y Garth Inn wedi'u dylunio i fod yn gyfforddus ac yn foethus, gyda llawer o'r dodrefn wedi'u gwneud yn lleol. Mae'r gweithiau celf ar y waliau wedi'u gwneud gan artistiaid lleol hefyd.
Mae pethau megis y matresi a dillad gwely moethus gorau yn ychwanegu at y croeso cynnes. Mae ystod o gynigion ar gael lle mae modd mwynhau prydau wrth aros dros nos. Mae modd trefnu ystafell sy'n caniatáu cŵn ar y wefan.
Mae Tafarn Gwaelod-y-garth wrth waelod Mynydd y Garth (mae taith gerdded i fyny'r mynydd gyda ni os oes diddordeb gyda chi) ym mhentref Ffynnon Taf, sef lleoliad ffilm Hugh Grant 'The Englishman Who Went Up A Hill And Came Down A Mountain'. Yn ôl y sôn, siop DIY y pentref oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer siop Arkwright yn 'Open All Hours'.
Ble: Gwaulod Y Garth, CF15 9HH
Math: Bed and Breakfast
Sgôr: No rating