Skip to main content

Rhondda Tunnel Cottage

Cafodd y bwthyn yma ei enwi ar ôl y twnnel rheilffordd segur gyfagos a oedd yn cael ei ddefnyddio i gludo glo o Waith Glo Bryn y Rhedyn (sydd bellach wedi cau) i weddill Cymru a'r byd.

Mae Rhondda Tunnel Cottage yn lle gwych i'r sawl sydd eisiau crwydro a darganfod yr ardal leol.

Mae cynlluniau i ail-agor y twnnel rheilffordd, a'i wneud felly'n dwnnel beicio hiraf Ewrop.

Mae Penpych sef un o ddau yn unig o fynyddoedd pen bwrdd yn Ewrop, ar garreg y drws ac mae'r bwthyn yn agos at atyniadau gan gynnwys Zip World Tower.

Mae'r bwthyn yn cysgu hyd at bump o bobl mewn tair ystafell wely.

Cafodd y llety ei adnewyddu'n ddiweddar ac mae yno gegin â'r holl offer sydd ei angen i goginio, teledu, seinyddion Bluetooth a lle i storio beiciau ac offer arall.

Mae Rhondda Tunnel Cottage dan ofal Stay Staycations

Ble: Treorchy, CF42 5EB

Math: Air Bnb, Self-catering rental

Sgôr: No rating

Cysylltwch â ni

Nodweddion

  • Dogs Welcome
  • Bike Storage
  • Great for walkers
  • Great for cyclists
  • Great for families
  • Great for groups
  • Free parking
  • Wi-Fi