Eglwys Sant Alban
Mae'r capel anferth yma wedi'i drawsnewid yn gartref gwyliau ac yn cysgu 10 ar draws pum ystafell wely.
Yn dyddio o 1899, mae’r ffenestr liw wreiddiol, sy'n mesur 25 troedfedd wedi’i hadfer ac mae bellach yn ganolbwynt yn yr ystafell fyw.
Gydag ystafell fwyta a byw fawr, ynghyd â lle i storio beiciau'n ddiogel, dyma le gwych i deuluoedd a grwpiau aros.
Mae'n agos at Zip World Tower, Parc Gwledig Cwm Dâr a Pharc Beiciau Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd, heb sôn am ardaloedd awyr agored anhygoel.
Ble: Treherbert, CF42 5DB
Math: Air Bnb, Self-catering rental
Sgôr: No rating