Swn Y Gwynt
Mae'r rhandy hardd yma ar dir tŷ'r perchennog ond mae ganddo ei fynediad preifat ei hun.
Mae'r llawr gwaelod gyda mynediad ramp ar gael ac mae lle i bedwar o westeion gysgu, gydag un ystafell wely a rhagor o le yn yr ystafell fyw. Mae ganddo ystafell ymolchi wlyb, felly mae'n berffaith ar gyfer gwesteion llai symudol.
Ac yntau ym mhen uchaf Rhondda Cynon Taf, yn agos at Fannau Brycheiniog, Distyllfa Wisgi Penderyn a Zip World Tower, dyma leoliad gwyliau tawel a chyffyrddus.
Mae Sŵn y Gwynt dan ofal Air BnB.
Ble: Rhigos, CF44 9YS
Math: Air Bnb, Self-catering rental
Sgôr: No rating