Ty Aderyn at Bird's Farm
Mae Tŷ Aderyn yn dŷ carreg hardd wedi’i leoli mewn ardal dawel a diarffordd ar gyrion Bannau Brycheiniog.
Mae'n cysgu hyd at 10 o westeion mewn tair ystafell wely ac mae ganddo ystafell fyw, ystafell fwyta a chegin fawr, agored.
Mae hefyd ystafell wydr yno sy'n gartref i fwrdd pŵl a phêl-droed bwrdd.
Yn ei gerddi mawr, anghysbell mae barbeciw ac ardaloedd bwyta, a hyd yn oed tŷ coeden cyfrinachol i'w ddarganfod.
Mae'r ardal lle mae Tŷ Aderyn wedi’i leoli yn fyd-enwog am ei awyr glir gyda’r nos, sy’n berffaith i wylio'r sêr.
Mae hyd yn oed modd llogi twba twym ac ymlacio dan y sêr!
Mae Tŷ Aderyn yn un o chwe dewis llety ar safle fferm hardd Bird's Farm.
Mae Ffermdy Bird's House, The Stables a chyfle unigryw a hwyliog i glampio yn Harri, Hetty a Dolly. Roedd Harri a Hetty yn gerbydau cludo ceffylau a Dolly yn hen fws deulawr.
Mae'r tri bellach wedi'u trawsnewid yn llety cyfforddus.
Mae Tŷ Aderyn dan ofal Air BnB.
Ble: Hirwaun, CF44 0PJ
Math: Air Bnb, Self-catering rental
Sgôr: No rating