Ty Ffarm at Gellilwch
Mae croeso cynnes yn aros i chi yn y ffermdy yma o'r 16eg ganrif.
Mae'r ffermdy wedi'i drawsnewid yn westy eang a moethus ac mae ganddo olygfeydd godidog.
Mae'r gwesty mewn ardal wledig yn agos at dref hanesyddol Pontypridd a nifer o atyniadau lleol gan gynnwys Taith Pyllau Glo Cymru a'r Bathdy Brenhinol.
Mae modd i 10 person gysgu yma mewn pum ystafell wely (sengl, dwbl, bync ac ystafell feistr fawr). Mae nodweddion gwreiddiol fel lleoedd tân cornel simnai dal i'w gweld yma ar y cyd â dyluniad modern.
Mae dwy ystafell fyw fawr, cegin enfawr, ystafell esgidiau dan do a storfa beiciau.
Mae gerddi mawr y tu allan gyda seddi, barbeciw, twba twym, trampolîn a gemau awyr agored i bawb.
Mae Tŷ Ffarm at Gellilwch dan ofal Sykes Cottages
Ble: Pontypridd, CF37 3NW
Math: Self-catering rental
Sgôr: No rating