Sy'n addas i gŵn yn RhCT
Os mai mynd am dro ar ben mynydd, crwydro mannau agored y sir, neu weld rhaeadrau sy'n mynd â'ch bryd chi, RCT yw'r lle perffaith i gŵn ddod â'u perchnogion!Mae'n amhosibl peidio â gwenu wrth weld cŵn yn mwynhau anturiaethau ac yn llyfu 'puppachino'.
Mae croeso mawr i gŵn (a'u perchnogion!) ger yr afon yn y bwyty yma. Cewch chi fwyta tu mewn a'r tu allan yn yr awyr agored, ac mae danteithion cŵn y tu ôl i'r cownter.
Ar ôl i bawb lenwi'u boliau, beth am fynd am dro hir ar hyd yr afon i Barc Coffa Ynysangharad? Mae modd crwydro'r parc hyfryd yma, cerdded ar bwys yr afon neu hyd yn oed ymuno â Llwybr Taith Taf sy'n cysylltu Caerdydd ag Aberhonddu, trwy ganol Rhondda Cynon Taf!
Rhowch gyfle i'ch ci ymlacio mewn lleoliad moethus, a breuddwydio am redeg ar ôl cathod yn Neuadd Llechwen. Mae croeso i gŵn yn y gwesty gwledig yma, sydd yng nghanol cefn gwlad agored.
Dyma fan agored enfawr sy'n baradwys i gŵn a'u perchnogion. Mae llwybrau hyfryd yn y parc lle mae modd cerdded am filltiroedd hyd at gopaon mynyddoedd cyfagos.
Mae'r caffi yn gwerthu hufen iâ sy'n addas i gŵn - ac mae digon o ddewis i'w perchnogion hefyd!
Mae llynnoedd, parc chwarae, llwybrau beicio, llwybrau cerdded a llawer yn rhagor.
Mae dewis arbennig o ddiodydd poeth ac oer yn y caffi bach steilus yma yn Ffynnon Taf. Mae modd archebu teisen hefyd, gyda dewisiadau sy'n addas i gŵn - rhywbeth at ddant pawb.
Gwesty a Chlwb Iechyd Maenordy Meisgyn
Mae'r hen faenordy hanesyddol yma wedi'i leoli o fewn gerddi syfrdanol ac mae'r tu mewn yn well byth. Mae croeso mawr i'ch tywysog neu dywysoges bedair coes aros gyda chi yn y llety moethus yma.
Tafarn fywiog yng nghanol y dref ydy The Lion, sy'n gweini bwyd a diodydd gwych. Mae achlysuron comedi, cwisiau a cherddoriaeth fyw yn cael eu cynnal yma. Mae posibilrwydd y byddwch chi'n clywed lleisiau pwerus Côr Meibion Treorci wrth ymweld â'r dafarn. Mae'r côr yn dueddol o alw draw ar ôl ymarfer yn y capel cyfagos, Capel Bethlehem.
Caiff cŵn cymdeithasol fwynhau yn yr ardal eistedd awyr agored.
Dyma fan agored anhygoel arall sy'n llawn pethau i'w gwneud, eu gweld - a'u harogli! Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn gartref i Barc Beiciau Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd, y cyntaf o'i fath yn y DU. Mae'n cynnwys llwybrau beicio trwy'r mynyddoedd, trac pwmpio a chwrs beiciau ar gyfer plant bach. Mae modd llogi beiciau a manteisio ar wasanaeth teithio i fyny'r llwybrau mynydd hefyd.
Mae digonedd o lwybrau cerdded - beth am gerdded ger y llyn a mwynhau'r byd natur? Neu i'r rhai sy'n dymuno cynyddu curiad y galon, beth am fynd am dro yn uchel yn y mynyddoedd? Bydd digon o ymarfer corff i'r cŵn a'u perchnogion. Mae croeso mawr i gŵn yn Nghaffi Cwtsh – mae hufen iâ sy'n addas i gŵn yn y rhewgell bob tro!
Caiff cŵn aros yn y llety ar y safle ac ar y maes carafanau.
Tafarn sydd wedi ennill gwobrau ydy The Bunch of Grapes, ac mae croeso mawr i gŵn yma. Os oes ci gyda chi, ac rydych chi'n hoff iawn o fwyd ffres lleol, dyma'r lle i chi.
Ar gopa'r Rhondda Fawr, dyma westy mewn lleoliad delfrydol i fwynhau antur gyda'ch cŵn.
O'r gwesty, mae modd mynd â'ch ci am dro trwy'r goedwig hynafol ac yn uchel i fyny'r mynyddoedd, gan gynnwys Pen-pych a Rhigos.
Mae ystod o ystafelloedd, man storio beiciau a bwyd arbennig ar gael o fore gwyn tan nos yma.
Oes gyda chi gi sy'n hoffi gwenu o flaen y camera? Dyma siop goffi berffaith i dynnu lluniau. Mae diodydd, teisennau a byrbrydau blasus ar gael yma, ac mae gan y lleoliad wal flodau, arwyddion neon a llawer yn rhagor.
Beth am adael i'r cŵn ddewis a ydyn nhw eisiau bwyta tu mewn neu tu allan yn Coffi HQ?
Tafarn Gwaelod-y-garth
Yng ngardd y dafarn nodedig yma, mae tap cwrw (dŵr) ar gael ac mae croeso i gŵn aros dros nos yn rhai o'r ystafelloedd.
Mae Tafarn Gwaelod-y-garth wrth waelod Mynydd y Garth (mae taith gerdded i fyny'r mynydd gyda ni os oes diddordeb gyda chi) ym mhentref Ffynnon Taf, sef lleoliad ffilm Hugh Grant 'The Englishman Who Went Up A Hill And Came Down A Mountain'. Yn ôl y sôn, siop DIY y pentref oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer siop Arkwright yn 'Open All Hours'.
Ar ddiwrnod braf (neu hyd yn oed diwrnod sych), does dim byd yn well nag eistedd ar y decin yn Lakeside Café Bar a mwynhau coffi, slush neu hyd yn oed gwydraid o win a gwylio'r byd yn mynd heibio.