Skip to main content

Lleoedd hanesyddol i aros ynddyn nhw

Arhoswch yn nhŷ fferm hynaf Cwm Rhondda, sef tŷ fferm sy'n dyddio i'r 16eg Ganrif sydd bellach yn llety moethus. Neu arhoswch mewn hen fecws neu hyd yn oed plasty hanesyddol.

Gwesty Miskin Manor

Mae'r hen blasty yma'n dyddio yn ôl i'r 11eg ganrif ac mae wedi'i adnewyddu'n hyfryd i gynnig ystafelloedd sydd wedi'u dylunio'n unigol, gan gynnwys ystafelloedd gyda gwelyau â phedwar polyn.

miskin manor1

Ffarm Ty Newydd

Dewch i aros yn ffermdy hynaf Cwm Rhondda.

Mae Tŷ Newydd Farm yn dyddio o’r 1650au ac wedi’i adnewyddu i greu cartref gwyliau unigryw i hyd at 12 o bobl mewn pedair ystafell wely.

tynewydd historic

Ty Ffarm

Mae croeso cynnes yn aros i chi yn y ffermdy yma o'r 16eg ganrif.

Mae'r ffermdy wedi'i drawsnewid yn westy eang a moethus ac mae ganddo olygfeydd godidog.

TY Ffarm 1

Mae croeso cynnes yn aros i chi yn y ffermdy yma o'r 16eg ganrif.

Mae'r ffermdy wedi'i drawsnewid yn westy eang a moethus ac mae ganddo olygfeydd godidog.

Mabon House

Mae’r tŷ mawreddog pedair ystafell wely yma wedi’i addurno mewn arddull bwtîc, ac mae hyd yn oed ganddo ei Blac Glas hanesyddol ei hun. Mae'r plac yn anrhydeddu ei William “Mabon” Abraham, a oedd yn arfer byw yno ac a oedd yn un o'r gwleidyddion amlycaf a welodd Cwm Rhondda erioed.