Ystafell â golygfa braf
Oes unrhyw beth yn well na deffro i olygfa anhygoel? Mae ein tirlun yn hardd iawn, ac mae nifer o'n lleoedd i aros ynddyn nhw gyda golygfeydd hyfryd o'r tirlun hwnnw.
Mae Can Yr Afon, wedi'i amgylchynu gan lwybrau cerdded, teithiau beic a golygfeydd godidog.
Mae’r eiddo modern a chwaethus yma'n agos at “Frenhines y Cwm” sef tref Aberdâr, gydag amrywiaeth o siopau annibynnol ac adnabyddus a lleoedd bwyta traddodiadol.
Mae'r guddfan glyd yma ar lannau'r Afon Taf.
Gwrandewch ar yr afon a gwylio'r hwyaid o'r ardd gefn wrth gynllunio diwrnod llawn antur yn Rhondda Cynon Taf.
Ac yntau'n blasty gwledig swynol ar un adeg, a bellach yn westy hamddenol, modern, mae Neuadd Llechwen yn swatio mewn amgylchedd hardd ac mae'n cynnwys 46 ystafell wely en-suite modern a helaeth sydd wedi’u dylunio’n dda.