Skip to main content

Cafe Royale

Gweini bwyd sydd â blas gwreiddiol yr Eidal ym Mhontypridd am dros 100 mlynedd.

Mae Café Royale wedi bod yn hoff le i fwyta ar Stryd Fawr Pontypridd ers 1903 gan ddenu cwsmeriaid gyda'i ystod o brydau, byrbrydau a diodydd – yn ogystal ag ambell hufen iâ a choffi Eidalaidd!

Mae Café Royale yn gaffi "Bracchi" – sef siopau coffi a hufen iâ a gafodd eu hagor gan Eidalwyr a fudodd i dde Cymru yn ystod y ffyniant yn y diwydiant glo. Roedd Giovanni Orsi yn 13 oed pan symudodd i Bontypridd o'r Eidal i weithio yn Café Royale, ac aeth rhagddo i berchen ar y bwyty, sydd bellach yn cael ei gynnal gan ei wyrion.

Ble: Pontypridd, CF37 1QJ

Math: Restaurant, Bar, Desserts, Café

Cysylltwch â ni

Nodweddion

  • Restaurant
  • Café
  • Pubs and Bars
  • Great for drinks