Lakeside Cafe
Ar ddiwrnod braf (neu hyd yn oed diwrnod sych), does dim byd yn well nag eistedd ar y decin yn Lakeside Café Bar a mwynhau coffi, slush neu hyd yn oed gwydraid o win a gwylio'r byd yn mynd heibio.
Mae’r caffi wedi’i leoli ar ymyl y llyn ym Mharc Gwledig Cwm Clydach ac mae’n lle perffaith i lenwi'ch bol cyn mynd ar antur gerdded, neu ymlacio ar ôl treulio amser yn crwydro.
Mae'r fwydlen yn helaeth, gan gynnig popeth o ginio dydd Sul a chyrïau Cymreig i fagéts, tatws pob a phaninis.
Mwynhewch baned o de, coffi neu siocled poeth, yn ogystal â diodydd ysgafn neu rywbeth o'r bar.
Ble: Tonypandy, CF40 2XX
Math: Take-away, Café