Coffi, cacennau, coginio, cysur - dewch o hyd i'r pethau yma i gyd yn Rhondda Cynon Taf.
Mae caffis yn ffynnu yn Rhondda Cynon Taf. Mae nifer o'n caffis annibynnol yn gwreiddio o gaffis Bracci (siopau coffi a pharlyrau hufen iâ) a agorwyd gan Eidalwyr a ddaeth yma pan roedd y diwydiant glo yn ffynnu. Mae'r caffis yma, nifer ohonyn nhw'n dal i gael eu rhedeg gan yr un teuluoedd, yn gweini coffi a chacennau cartref a byrbrydau sawrus. Mae hefyd gyda ni ddigon o lefydd i ymlacio a mwynhau brecwast a bwytai modern yn gweini powlenni lles ac eggs benedict.