Skip to main content

Parc Aberdâr

Dewch i fwynhau llyn cychod Fictoraidd gyda chychod padlo, maes chwarae mawr, pad sblash a rhywfaint o hanes anhygoel Cymru!

Mae Parc Aberdâr ar gyrion canol y dref, a dyma le perffaith i ddianc rhag y bwrlwm. Dewch i gael tamaid i'w fwyta o'r caffi ar y safle a'i fwyta y tu allan ar un o'r seddi o amgylch y llyn cychod Fictoraidd.

Mae modd i chi hefyd brynu bwyd adar i’r gwyddau sy’n byw ar y llyn ac, ar ddiwrnod sych, cewch fynd am daith ar draws y llyn ar un o’r cychod padlo siâp alarch neu ddraig.

Bydd plant bach wrth eu bodd â'r maes chwarae antur, sydd â siglenni, sleidiau a weiren sip fach. O fis Ebrill i fis Medi, mae pad sblasio Aquadare ar agor - lle perffaith i gadw'n oer yn y tywydd braf.

Bwriwch olwg ar y ffynnon syfrdanol ger y caffi. Mae’n un o dim ond tri yn y byd, gan gynnwys un y tu allan i Westy’r Raffles yn Singapore. Cafodd ei roi i Aberdâr i nodi coroni’r Brenin Siôr V yn 1911.

Ewch i weld Meini'r Orsedd, a gafodd eu gosod pan gynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn y parc yn 1956.

Mae Parc Aberdâr yn gartref i Ŵyl Aberdâr a Rasys Ffordd Aberdâr, ill dau yn achlysuron hynod boblogaidd sy’n denu miloedd o bobl bob blwyddyn.

 

 

Ble: Aberdâr, CF44 8HN

Math: Activities, Parks

Cysylltwch â ni

  • Cyfeiriad: Aberdâr, CF44 8HN
  • Ffôn: 01685 878888

Features-

  • Great for kids
  • On-site restaurant/café
  • Great for history lovers
  • Free parking
  • Dogs welcome

Allwedd y map

Rhestr bresennol

Llety

Food & Drink-

Please hold shift while scrolling to zoom in/out on the map