Parc Gwledig Barry Sidings
Gwnewch y mwyaf o'ch diwrnod allan yn y gofod antur enfawr yma!
Mae gan Barc Gwledig Barry Sidings drac pwmp bach i feiciau a chwrs beicio mynydd i’w mwynhau, yn ogystal â llwyth o lwybrau gwastad sy’n berffaith ar gyfer reidio sgwter.
Mae digonedd o fannau agored gwyrdd i chwarae pêl-droed, ffrisbi a chael picnic, a theithiau cerdded cyffrous i'r mynyddoedd sydd o amgylch y parc gwledig.
Crwydrwch y llynnoedd, arhoswch yn y maes chwarae antur a chadwch lygad am y crëyr glas sy'n byw yma.
Mae Parc Gwledig Barry Sidings wedi’i adennill o ddiwydiant ac mae’n eistedd ar draciau’r hen dramffordd a fyddai wedi mynd â glo o Lofa Lewis Merthyr gerllaw (Taith Pyllau Glo Cymru erbyn hyn) i lawr i Fae Caerdydd, lle'r oedd yn cael ei gludo i bedwar ban byd.
Erbyn hyn dyma gyrchfan antur anhygoel i bawb. Mae'r parc gwledig hefyd yn gartref i’r Bike Doctor, sy'n atgyweirio a gwerthu beiciau mynydd, a rhagor. Mae'r Bike Doctor hefyd yn cynnal caffi Barry Sidings, sy’n brofiad ynddo’i hun!
Mae'r fwydlen yn cynnwys byrgyrs anferth, sglodion â thopin, ysgytlaeth, siocled poeth moethus a rhagor.
Ble: Trehafod, CF37 2PE
Math: Attractions, Parks, Walking and Cycling