Skip to main content

Parc Gwledig Cwm Dâr a Pharc Beiciau Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd

Ydych chi ddigon dewr i roi cynnig ar y parc beiciau ar gyfer teuluoedd pwrpasol cyntaf yn y DU, a hynny mewn ardal agored syfrdanol?

Mae gan Barc Gwledig Cwm Dâr gannoedd o erwau, sy'n frith o lwybrau cerdded, llwybrau beicio, natur, chwarae awyr agored a llwyth o anturiaethau.

Dyma gartref i Barc Beiciau Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd, y gylchffordd bwrpasol i deuluoedd cyntaf yn y DU. Cewch ddod â'ch beic eich hun neu logi un o'n beiciau ni ar y safle.

Defnyddiwch y gwasanaeth codi i fynd â chi i ben y mynydd, er mwyn i chi wibio lawr y llwybrau. Cofiwch roi cynnig ar y traciau pwmp ar y ffordd i lawr i brofi’ch symudiadau a'ch sgiliau.

Mae hyd yn oed trac beiciau cydbwysedd lliwgar i blant bach roi cynnig arno, felly mae modd i bawb gymryd rhan.

Os yw’n well gyda chi fynd am dro ar droed yn hytrach na beicio, mae nifer o deithiau cerdded ar gael o'r parc gwledig – o deithiau hamddenol braf yng nghanol byd natur i deithiau heriol i ben y mynydd. Mae rhai o'r rhain yn addas i gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio.

Mae maes chwarae antur enfawr gyda siglenni, llithrennau, caerau a rhagor ar gyfer plant hŷn, yn ogystal ag ardal chwarae lai i blant bach ger y ganolfan ymwelwyr.

Mae cytiau byrbrydau sy'n gweini popeth o siocled poeth i hufen iâ i gŵn wedi'u gwasgaru ar draws y brif ardal i ymwelwyr a'r parc beiciau, gyda digonedd o seddi.

Mae yna doiledau cyhoeddus, gan gynnwys cyfleuster Changing Places hygyrch.

Dewch am wyliau.... Mae gan Barc Gwledig Cwm Dâr ei faes carafanau ei hun sy'n croesawu carafanau, cerbydau gwersyllu a chartrefi modur (dim pebyll yn anffodus). Mae gan bob llain gysylltiad trydan a defnydd o'r ardaloedd golchi dillad, toiledau a chawodydd sydd newydd eu hadnewyddu.

Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn safle achrededig Awyr Dywyll Cymru, sy'n golygu bod awyr y nos yno mor glir â chrisial, sy'n berffaith ar gyfer syllu ar y sêr a chwilio am sêr cynffon.

 

Ble: Aberdare, CF44 7RG

Math: Parks

Cysylltwch â ni

Nodweddion

  • Accessible (wheelchair access, changing places, disabled facilities)
  • Autism Friendly
  • Dogs welcome
  • Free parking
  • Great for groups
  • Great for kids
  • On-site restaurant/café