Cymdeithas Pysgota â Phlu Aberpennar
Mae Cymdeithas Pysgota â Phlu Aberpennar yn cynnig pysgota o safon yng Nghronfa Ddŵr Penderyn ac mae modd i ymwelwyr fachu ar y cyfle i brynu tocynnau diwrnod.
Dŵr pysgota o gwch ac o'r glan yw Penderyn, ac mae'n cynnwys brithyllod gwyllt a brithyllod seithliw. Mae'r dyfroedd yn berffaith ar gyfer pysgotwyr plu sy'n hoffi dal a rhyddhau pysgod.
Mae’r tymor ym Mhenderyn yn rhedeg o 1 Mawrth tan 31 Rhagfyr.
Mae tocynnau diwrnod yn costio £20 a rhaid eu prynu cyn 12pm ar y diwrnod cyn i chi ymweld. Mae modd i chi brynu'r tocynnau o Deb's Newsagents, 72 Stryd Fawr, Hirwaun. Mae Deb's ar agor saith diwrnod yr wythnos ac mae modd cysylltu â nhw drwy ffonio 01685 811440.
Ble: Hirwaun, CF44 9SW
Math: