Skip to main content

Amgueddfa Crochendy Nantgarw

Mae'r porslen hardd sydd wedi'i greu yn Nantgarw wedi addurno byrddau bwyta'r teulu brenhinol ac erbyn hyn mae'n cael ei ystyried mor bwysig fel ei fod yn cael ei arddangos mewn amgueddfeydd yn Llundain a thu hwnt.

Nantgarw yw unig grochendy porslen y 19eg Ganrif yn y DU.

Yn y 1800au, diolch i'r arlunydd ac artist enwog William Billingsley, cafodd rai o'r darnau gorau yn y byd eu cynhyrchu.

Dros 200 mlynedd yn ddiweddarach ac mae Amgueddfa Crochendy Nantgarw yn dathlu’r gorffennol hynod ddiddorol yma ac yn dangos ymrwymiad i’r porslen modern a’r ffurfiau celf eraill sy’n cael eu datblygu yno.

Archwiliwch y crochenwaith gwreiddiol, mwynhewch daith dywys a gweld yr odynau potel sydd mewn cyflwr cadw da. Ewch i weld yr artist preswyl sy'n cadw traddodiad Crochendy Nantgarw yn fyw wrth greu darnau modern.

Ymlaciwch yn yr ystafelloedd te hardd ac ewch i’r siop anrhegion, lle mae modd i chi brynu porslen modern a hefyd gemwaith unigryw sydd wedi’i greu o deilchion darnau gwreiddiol Nantgarw.

Ble: Nantgarw, CF15 7TB

Math: Attractions

Nodweddion

  • Accessible (wheelchair access, changing places, disabled facilities)
  • Autism Friendly
  • Free parking
  • Great for groups
  • Great for history lovers
  • On-site restaurant/café