Amgueddfa Pontypridd
Mae Amgueddfa Pontypridd yn sefyll ar lan Afon Taf, yn agos at yr Hen Bont eiconig.
Mae modd i chi ddysgu am hanes yr Hen Bont yn yr amgueddfa, sydd wedi'i lleoli mewn hen gapel. Oeddech chi'n gwybod mai dyma oedd y bont fwa sengl hiraf yn y byd ar un adeg?
Mae’r amgueddfa’n adrodd hanes sut y daeth anheddiad gwledig, tawel yn galon brysur i’r cymoedd, yn lleoliad bywiog o gelfyddyd a diwylliant.
Mae llawer o drysorau wedi'u cuddio yma, gan gynnwys eitemau yn perthyn i Evan a James James, y tad a’r mab o Bontypridd a gyfansoddodd yr Anthem Genedlaethol wrth iddyn nhw gerdded ar dir Parc Coffa Ynysangharad.
Ble: Pontypridd, CF37 4PE
Math: Attractions