Skip to main content

Canolfan Gweithgareddau Cwm Taf

Cafodd ”Taff Valley Activity Centre” ei hagor ym 1992 ac erbyn hyn mae gan y ganolfan 30 blynedd o brofiad o ddarparu gweithgareddau antur i ymwelwyr yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau fel:

Beicio Cwad - sesiynau i blant 7 i 11 oed ar y llwybr i blant a sesiynau i oedolion (pobl 12 oed neu’n hŷn) sy’n mynd trwy gefn gwlad (gan fanteisio ar y golygfeydd godidog – mae modd gweld mor bell â Weston Super Mare a’r Bannau Brycheiniog). Dyma weithgaredd sy’n cael ei gynnal yn yr awyr agored, waeth beth fo’r tywydd.

Saethyddiaeth - 8 oed neu’n hŷn - rhowch gynnig ar y gamp Olympaidd yma – bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu yn ogystal â gemau llawn hwyl. Gweithgaredd dan do yw hwn.

Taflu Bwyell - 10 oed neu’n hŷn – dyma weithgaredd sy’n boblogaidd iawn ar hyn o bryd – bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu yn ogystal â gemau llawn hwyl. Gweithgaredd dan do yw hwn.

Saethu Colomennod Clai - 16 oed neu’n hŷn - Rhowch gynnig ar gamp Olympaidd arall, byddwn ni’n darparu hyfforddiant un i un (gan unigolion sydd wedi cynrychioli Cymru yn y gamp!) Bydd modd defnyddio ystod o ddrylliau Beretta. Dyma gyfle i chi fwynhau'r gweithgaredd dan do yma (trwy gydol y flwyddyn).

Cwrs Antur - 10 oed neu’n hŷn - Llawer o hwyl a sbri gan fynd yn hollol wlyb a mwdlyd ar Gwrs Antur wedi'i adeiladu ar hyd nentydd a choetiroedd ar y fferm gyda rhwystrau fel waliau dringo, pyllau plymio, siglenni rhaff, trawstiau cydbwysedd, pontydd rhaff, cwrs codi teiars a llawer yn rhagor! Dyma’r gweithgaredd perffaith ar gyfer eich carfan chi neu i deuluoedd mawr (mae angen o leiaf 10 person).

Teithiau Ceunentydd yn y Bannau Brycheiniog.

Mae’r gweithgaredd yma wedi’i leoli ar fferm fynyddig 340 erw ger Caerdydd, mae’r fferm yn hawdd ei chyrraedd, dim ond 15 munud o draffordd yr M4 ac yn agos i Gaerdydd, Abertawe, Casnewydd, Caerffili, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Cymoedd De Cymru a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae'r gweithgareddau yma ar gael trwy gydol y flwyddyn (heblaw Diwrnod y Nadolig) ac yn wych ar gyfer adeg y gaeaf gan fod rhai gweithgareddau yn cael eu cynnal dan do ac mae modd parhau gyda’r gweithgareddau eraill er gwaetha’r tywydd!

Mae’r gweithgareddau yma’n addas ar gyfer teuluoedd, cyplau, grwpiau bach a mawr, grwpiau corfforaethol, ysgolion, colegau, gwasanaethau ieuenctid, grwpiau cwricwlwm amgen, sgowtiaid - unrhyw un mewn gwirionedd!!

Bydd modd i’r Ganolfan eich helpu gyda phob elfen o’ch amser yng Nghymru - cymorth wrth drefnu llety a thrafnidiaeth os oes angen, awgrymiadau ar gyfer lleoliadau bwyd gwych ac ati.

Cysylltwch â ni dros y ffôn, e-bost neu gan ddefnyddio’r ffurflen ar ein gwefan i drafod a gwirio argaeledd!

Croeso i gŵn (rhowch wybod i ni ymlaen llaw)

Hygyrch (cysylltwch â ni ymlaen llaw am ragor o wybodaeth)

Golygfeydd Godidog

Gwych i ddechreuwyr

Trwy gydol y flwyddyn, 7 diwrnod yr wythnos

Ble: Pontypridd , CF37 5BJ

Math: Activities

Cysylltwch â ni

Nodweddion

  • Accessible (wheelchair access, changing places, disabled facilities)
  • Autism Friendly
  • Dogs welcome
  • Free parking
  • Great for groups
  • Great for kids
  • On-site restaurant/café