Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty
Does dim cyrchfan arall tebyg yng Nghymru!
Mae Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, yn sefyll yng nghanol tref hanesyddol Pontypridd, lle cafodd anthem genedlaethol Cymru ei hysgrifennu a lle dechreuodd Syr Tom Jones ganu.
Mae'n adferiad godidog o'r Lido Art Deco a agorodd am y tro cyntaf yn y 1920au, ac mae nifer o'r nodweddion gwreiddiol wedi'u cadw, gan gynnwys y bythau newid awyr agored a'r gatiau tro wrth y fynedfa.
Mae yna dri phwll awyr agored - prif bwll, pwll gweithgareddau a phwll sblash gyda ffynnon. Caiff pob un o'r rhain eu gwresogi i 28 gradd trwy gydol y prif dymor.
Mae ystod o sesiynau i'w dewis ohonyn nhw yn Lido Ponty, yn dibynnu ar yr adeg o'r flwyddyn a ph’un ai yw'n wyliau ysgol ai peidio.
Mae'r rhain yn cynnwys sesiynau nofio mewn lonydd ben bore a sesiynau hwyl i'r teulu lle mae cwrs rhwystrau gwynt, sorbiau dŵr a chychod pedal i'w mwynhau.
Mae'r lleoliad hefyd yn cynnig sesiynau nofio ar Ddydd Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Os nad ydych chi'n un sy'n mwynhau'r dŵr, mae yna welyau haul ar y teras, lle mae modd i chi ymlacio a gwylio'r nofwyr. Neu cewch fachu coffi o’r Waffle House yng Nghaffi Lido ac ymlacio yn yr ardal eistedd.
Ewch i weld yr arddangosfa ar y safle, sy’n archwilio hanes y Lido ym Mharc Coffa Ynysangharad. Ar un adeg dyma oedd pwll hyfforddi Jenny James, y nofwraig a dorrodd record drwy fod y fenyw gyntaf i nofio'r Sianel y ddwy ffordd. Mae nifer o eitemau o'i gorffennol, gan gynnwys gwisg nofio, yn cael eu harddangos.
Mae gan Lido Ponty ystafelloedd newid a chawodydd dan do ac awyr agored, ac mae’n gwbl hygyrch i’r rhai sy’n defnyddio cadeiriau olwyn gan fod yna declyn codi i helpu i fynd i mewn ac allan o’r dŵr ac ystafell newid Changing Places.
Manteisiwch ar y cyfle i dreulio rhywfaint o amser ym Mharc Coffa Ynysangharad. Mae erwau i'w harchwilio, gyda chyrtiau tennis a badminton a chylchoedd pêl-fasged neu bêl-rwyd.
Ewch i grwydro'r ardd isel gudd a'r safle seindorf. Bwriwch olwg ar y cerflun o Evan a James James, y tad a'r mab o Bontypridd a gyfansoddodd yr Anthem Genedlaethol wrth iddyn nhw gerdded yn y parc.
Mae Chwarae'r Lido yn faes chwarae antur enfawr rhad ac am ddim wrth ymyl Lido Ponty gyda siglenni, sleidiau, pwll tywod a rhagor i blant o bob oed.
Ble: Pontypridd, CF37 4PE
Math: Attractions, Activities