Profiad y Bathdy Brenhinol
Dewch i ddarganfod rhyfeddod byd y darnau arian ym Mhrofiad y Bathdy Brenhinol, yr unig brofiad o’i fath yn y DU.
Cewch fynd y tu ôl i'r llen yn y sefydliad hynod ddiddorol yma, sy'n fwy na 1,000 o flynyddoedd oed ac a symudodd i Lantrisant ar ôl bod yn Nhŵr Llundain am ganrifoedd.
Cewch ddysgu am y darnau arian yn eich poced, eu harwyddocâd a'u hystyr. Mae modd i chi daro eich darn arian eich hun i fynd adref gyda chi a gweld y timau arbenigol wrth eu gwaith wrth iddyn nhw grefftio arian ar gyfer gwledydd ledled y byd.
Ewch yn ôl mewn amser i'r 9fed Ganrif trwy ddilyn chwe pharth yr arddangosfa. Cewch edmygu rhai o'r darnau arian ac arteffactau prinnaf yn y byd, gan gynnwys ceiniog arian Alfred the Great, a gafodd ei tharo wrth i Lundain gael ei meddiannu gan y Llychlynwyr.
Cewch ddysgu am gyfraniad Syr Isaac Newton fel Meistr y Bathdy a’r darn arian coffaol a gafodd ei dylunio ar gyfer Elisabeth I.
Mwynhewch yr arddangosfa o fedalau Olympaidd a Pharalympaidd a gafodd eu crefftio ar gyfer 100 o wledydd yn y Bathdy Brenhinol, gan gynnwys gemau eiconig Llundain 2012.
Beth am ychwanegu at eich casgliad darnau arian neu fachu'r anrheg berffaith yn y siop ar y safle, a chael tamaid yn y caffi?
Ble: Ynysmaerdy, CF72 8YT
Math: Attractions, Itineraries