Skip to main content

Taith Gerdded Mynydd y Bwlch

Cerddwch i ben y mynydd i weld un o olygfeydd mwyaf godidog de Cymru.

Mentrwch i ffwrdd o brysurdeb a sŵn y cymoedd isod a dilynwch y nentydd a’r dirwedd i gopa Mynydd y Bwlch.

Edmygwch y golygfeydd wrth sefyll ar y groesffordd i fwrdeistrefi sirol y cymoedd - Rhondda Cynon Taf, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr.

Ewch a phicnic, gwisgwch esgidiau cyfforddus a pharatowch i gerdded am o leiaf 3 awr er mwyn teithio'r 13km o Dreorci i'r olyfgan.

Mae hefyd modd prynu diod boeth neu oer, hufen ia neu fyrbryd o'r fan sydd fel arfer wedi parcio yn yr olygfan - cymerwch saib i ymlacio a chwrdd â'r defaid lleol sydd wedi hen arfer ag ymwelwyr a thynnu lluniau!

Mae'r daith gerdded yma'n heriol, ond werth pob cam.

Gwyliwch y fideo yma i weld y llwybr a'r hyn i’w ddisgwyl, a chlicio'r botwm 'get route' i weld map.

 

 

 

Ble:Treorci, CF426UD

Math:Long walk

Gweld y llwybr
Gwylio fideo

Cysylltwch â ni

  • Cyfeiriad: Treorci, CF426UD

Nodweddion

  • Close to a town centre