Taith Gylchol Cwm Clydach
Mae'r daith gerdded heriol 11 km yma'n eich tywys chi i'r goedwig a'r mynyddoedd sy'n amgylchynu Parc Gwledig Cwm Clydach.
Cerddwch hyd at uchder o bron i 400 metr wrth i chi grwydro’r tir a oedd unwaith yn un o'r ardaloedd a gafodd ei gloddio fwyaf yn y byd, ac sydd bellach wedi'i adennill gan Fam Natur.
Mae golygfeydd a choedwigaeth dawel yn disgwyl amdanoch chi!