Skip to main content

Taith Gerdedd Llantrisant

Wedi'i leoli yn nhref hyfryd Llantrisant a oedd yn gadarnle pwysig yn yr Oesoedd Canol, bydd y llwybr llafar yma yn rhoi cipolwg difyr i chi ar hanes Llantrisant.

Mae'r llwybr yn eich tywys o gwmpas nifer o leoliadau allweddol, gan gynnwys cerflun y derwydd ecsentrig, Dr William Price, a gynhaliodd yr amlosgiad cyfreithiol cyntaf, a Chastell Llantrisant, a oedd ar un adeg yn 'gartref' i'r Brenin anffodus Edward II a gafodd ei garcharu yno. Defnyddiwch drac sain Llwybr Llafar Llantrisant i gael rhagor o wybodaeth am hanes y dref.

Bydd y daith gerdded 1km yn cychwyn ac yn gorffen ym Maes Parcio Gwaun Rhiw'r Perrai ac yn para tua 1 awr. Beth am ymweld â'r Model House, pori yn rhai o siopau'r dref a chael pryd blasus yn un o'r bwytai er mwyn treulio prynhawn cyfan yn y dref?

Nodwch fod rhywfaint o dir anwastad, gan gynnwys rhai esgyniadau a disgyniadau serth yn Llantrisant. Efallai fydd y daith yma ddim yn addas felly ar gyfer cadeiriau gwthio neu gadeiriau olwyn, neu bobl â phroblemau symudedd.

 

Ble:Llantrisant, Cf72 8QQ

Math:Short walk

Gweld y llwybr
Gwylio fideo

Cysylltwch â ni

  • Cyfeiriad: Llantrisant, Cf72 8QQ

Nodweddion

  • Close to a town centre
  • Public transport accessible
  • Food and drink on the way