Taith Gerdded Cronfa Ddŵr Maerdy
Mae'r daith gerdded yma'n dechrau ger Cofeb hardd Porth Maerdy, er cof am y gymuned lofaol a'r rhai fu'n gweithio ynddi. Mae'r "Cwtch" yn gerflun enfawr o löwr yn dychwelyd ac yn cael ei gofleidio gan ei deulu. Mae wedi cael ei gerfio allan o bren ac mae'n pwyso mwy na dwy dunnell!
Mae'n wych ar gyfer y teulu cyfan ac mae'r llwybrau gwastad yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda gan olygu eu bod yn addas ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
Ewch ar hyd Afon Rhondda Fach, gan fynd heibio Tŷ Hidlo Castell Nos, rhan o waith dŵr o'r 19eg Ganrif a arweiniodd at gyflwyno dwy gronfa ddŵr i'r ardal.
Bwriwch olwg ar y Plac Glas sy'n nodi adfeilion castell canoloesol Castell Nos, gafodd ei adeiladu gan ddisgynyddion Brenin Cymreig olaf Morgannwg. Roedd y castell arfer sefyll yn falch dros fryniau Cwm Rhondda, ac arferai amddiffyn y tir rhag y Normaniaid.
Mae Cronfa Ddŵr Maerdy'n hardd ac wrth ichi fynd ar hyd yr afon, mae safleoedd picnic cudd i'w mwynhau – beth am ichi geisio edrych am yr hen bont?
Ar ôl dringo rhan fer a serth o'r llwybr, byddwch chi'n cyrraedd Cronfa Ddŵr Lluest Wen a rhagor o olygfeydd anhygoel. Yna ewch tuag at gopa Mynydd Rhigos a mwynhau'r olygfa yna. Bwriwch olwg ar y bobl yn gwibio lawr Phoenix yn Zip World Tower, neu ewch ar gylchdaith yn ôl at y dechrau.