Pen-pych
Mae Pen-pych yn un o dirnodau enwocaf cymoedd De Cymru, yn sefyll ar ben uchaf Cwm Rhondda Fawr, gyda golygfeydd godidog dros yr ardal gyfagos.
Dyma un o ddim ond dau fynydd pen bwrdd yn Ewrop. Darganfyddwch raeadrau a phyllau tylwyth teg, coedwigaeth hynafol a thaith gerdded i'r hyn sy'n teimlo fel brig y byd!
Gallwch naill ai gymryd llwybr cylchol o amgylch copa’r mynydd, neu ddringo’n syth i’r top ac yn ôl i lawr eto!