Skip to main content

Tunnel Cottages

Mae fferm hardd Blaen-Nant-Y-Groes ar ddiwedd dreif hir sy’n mynd heibio bythynnod Cwm-bach.

A hithau yng nghanol 15 erw o dir fferm a choetir, mae'n cynnig amrywiaeth o fythynnod hunanarlwyo a chwt bugail.

Mae modd defnyddio mwy nag un llety i ddiwallu maint ac anghenion eich parti.

Mae gan bob un o’r bythynnod nodweddion gwreiddiol, megis lloriau cerrig a thanau sy’n llosgi coed, ond maen nhw hefyd yn cynnwys wifi, teledu digidol a cheginau gyda'r holl offer sydd ei angen i goginio.

Melyn: Bwthyn dwy ystafell wely gyda grisiau carreg. Ystafell fyw a bwyta cynllun agored, ynghyd â chegin fodern gyda pheiriant golchi llestri.

I fyny'r grisiau mae ystafell wely oriel â dau wely, ystafell wely ddwbl ac ystafell ymolchi.

Arian: Bwthyn carreg un ystafell wely gyda grisiau haearn Fictoraidd yn arwain at ystafell â dau wely ynddi ac ystafell ymolchi gyda chawod pŵer ynddi.

Glas: Stiwdio ar ffurf llofft llawr cyntaf gyda'i grisiau pren y tu allan, dec a golygfeydd.

Gwyn: Stiwdio ar y llawr gwaelod gyda mynediad gwastad a nodweddion carreg hyfryd.

Cwtsh: Cwt bugail i ddau yn y padog. Mae nodweddion gwreiddiol a gwledig yma, yn ogystal â chyfleusterau modern, gwres, golau a phŵer. Mae'r ystafell ymolchi a'r gegin mewn adeilad cyfagos ac mae gan y cwt ardal barbeciw hefyd.

Ble: Cwm-bach, Aberdâr , CF44 0EA

Math: Self-catering rental

Sgôr: 4

Cysylltwch â ni

Nodweddion

  • Dogs Welcome
  • Bike Storage
  • Great for walkers
  • Great for cyclists
  • Great for groups
  • Free parking
  • Wi-Fi