Lleoedd i aros ble bydd y plant wrth eu boddau
Mae Rhondda Cynon Taf yn lle gwych i ymweld ag ef gyda'r plant. Mae yma brofiadau ac anturiaethau anhygoel iddyn nhw eu mwynhau ac mae gyda ni amrywiaeth o ddewisiadau o ran llety y byddan nhw wrth eu boddau â nhw!
Bwthyn Cwtch
Bydd plant wrth eu boddau'n aros yng nghanol tref hanesyddol Llantrisant, lle mae mythau a chwedlau'n chwyrlïo drwy'r strydoedd llawr cobls hynafol. Mae'r llety pert yma'n caniatáu cŵn hefyd ac yn agos at Neuadd Tref Llantrisant a Chanolfan Ymwelwyr y Bathdy Brenhinol
Bird’s Farm
Mae gan y lleoliad enfawr yma amrywiaeth o lety ble bydd y plant wrth eu boddau. Wedi'i leoli yn y bryniau islaw Bannau Brycheiniog, mae'r ardal gyfan yn llawn harddwch naturiol, anturiaethau awyr agored ac awyr nos sy'n pefrio â sêr. Mae modd ichi glampio yn Harri a Hatti, trelars ceffylau sydd wedi'u trosi'n llety, Dolly'r bws deulawr neu The Stables, Tŷ Aderyn neu Bird's House.
Fferm Hafod Ganol
Perffaith i'r teulu cyfan ddod at ei gilydd. Mae yma chwe ystafell wely, ystafell gemau, llwyth o lyfrau i'w darllen, gardd fawr a thwba twym. Gerllaw mae Taith Pyllau Glo Cymru, sy wedi ennill gwobrau am ei arlwy i blant.
266 Calon y Cymoedd
Mae'r llety hunan-arlwyo yma wedi'i ddylunio gyda phlant mewn golwg. Ynghyd â thu mewn golau a modern sy'n cynnwys yr holl gyfleusterau modern byddwch chi eu hangen, mae twba twym ac ardal chwarae i blant y tu fas. Bydd plant wrth eu boddau â Pharc Gwledig Cwm Dâr, Parc Aberdâr a Zip World Tower gerllaw.
Tŷ Ffarm yng Ngellilwch
Mae gan y tŷ fferm yma sy'n dyddio i'r 16eg Ganrif olygfeydd godidog a gardd enfawr i chwarae ynddi. Mae'n cynnwys pum ystafell wely, gardd â thwba twym, siglen, gemau i'ch chwarae tu fas ac ystafell esgidiau i'w defnyddio ar ddiwedd diwrnod o deithiau cerdded mwdlyd!
Parc Gwledig Cwm Dâr
Mae modd parcio carafanau, cerbydau gwersylla a chartrefi modur ym Mharc Gwledig hardd Cwm Dâr. Gallwch chi gadw'n brysur yn ystod y dydd drwy ymweld â'r Parc Beiciau Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd a'r parc antur, yn ogystal â mynd ar deithiau cerdded a chymryd rhan mewn gemau yn yr awyr agored. Yn y nos, edrychwch i fyny er mwyn gweld y sêr anhygoel.
Fernhill Valley Farm
Mewn cornel ddiarffordd o Gwm Rhondda mae maes glampio Fernhill Valley Farm.
Mae pedwar pod hunangynhwysol, pob un â'i ardal eistedd, cegin ac ystafell ymolchi ei hun.
Mae ganddyn nhw batios preifat gyda phyllau tân, felly mae croeso i chi fwynhau brecwast gyda'r wawr neu dostio malws melys o dan y sêr yn y nos.