Skip to main content

The Waffle House at Caffi Lido

Mae The Waffle House, Caffi Lido wedi'i leoli yn adeilad trawiadol Lido Ponty ac mae’n cael ei redeg gan y cwmni adnabyddus, Cleverchefs. Mae'n lle perffaith i ymlacio, cael tamaid i'w fwyta a mwynhau tra ydych chi'n ymweld â Lido Ponty a Pharc Coffa Ynysangharad.

Mae gan The Waffle House fwydlen sy'n sicr o dynnu dŵr o'ch dannedd, gan gynnwys wafflau sawrus â chynhwysion brecwast a llysieuol, yn ogystal â dewisiadau melys a llawn ffrwythau. Mae bwydlen wych i blant ar gael hefyd.

Mae diodydd poeth ac oer a byrbrydau blasus ar gael hefyd ar ôl eich sesiwn nofio yn Lido Ponty neu tra bo'r plant yn chwarae yn ardal Chwarae’r Lido!

Bwytwch i mewn neu ar y teras sy'n edrych dros yr ardal chwarae ar ddiwrnod braf neu ewch â'ch bwyd gyda chi i'w fwynhau yn harddwch Parc Coffa Ynysangharad.

Mae gan The Waffle House, Caffi Lido doiledau tu mewn, mynediad i bobl anabl ac mae’n cynnig opsiynau feganaidd, llysieuol a heb glwten.

Mae croeso i gŵn

Ble: Pontypridd , CF37 4PE

Math: Desserts, Take-away, Café

Cysylltwch â ni

Nodweddion

  • Restaurant
  • Café
  • Food on the go (Sandwiches, deli, fish & chips etc.)
  • Ice-cream and desserts
  • Dogs Welcome