Skip to main content

Dewch â'ch teulu ynghyd a mynd ar antur

Dewch â'ch teulu a ffrindiau ynghyd a mynd ar antur. Rydyn ni'n gartref i rai o'r profiadau mwyaf anhygoel yn Ne Cymru. Cewch chi hedfan oddi ar gopa mynydd, mynd am dro i weld golygfeydd gwych machlud haul neu fwynhau nofio gwyllt.

Zip World Tower

Dyma'r profiad adrenalin diweddaraf o'r cwmni byd-enwog o Gymru. Does dim atyniad tebyg yng Nghanolbarth Cymru nac yn Ne Cymru. Phoenix yw'r wifren wib gyflymaf o'i math yn y byd. Dyma gyfle i chi hedfan oddi ar gopa Mynydd Rhigos, dros y goedwig a chronfa ddŵr Llyn Fawr.

Ewch ar daith ffigar-êt Tower Coaster wrth iddo droi a throelli i lawr y bryn – ddewch chi ddim o hyd i un arall tebyg iddo yn Ewrop felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ymweld yn fuan.

Bydd plant sy'n dwlu ar antur wrth eu boddau â'r 'Tower Flyer', profiad llinell wibio gyda thri pharth. Ar y 'Tower Flyer', mae modd gwibio ochr yn ochr â rhywun arall!

Cegin Glo hefyd. Mae'n cynnig golygfeydd anhygoel o'r ardal o'i amgylch ac o'r haul yn machlud. Bydd y caffi'n gwerthu rhai o fwydydd a diodydd gorau'r ardal leol.

zipworldadventure

Parc Gwledig Cwm Dâr

Dyma leoliad anhygoel os oes gyda chi garafán, cerbyd gwersylla neu gerbyd modur. Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn safle achrededig Awyr Dywyll Cymru, sy'n golygu ei fod yn cynnig amodau perffaith yn ystod y nos ar gyfer syllu ar y sêr. Gosodwch y crogwely neu glustogau ar y llawr ac ymlaciwch o dan y sêr a'r cytserau.

Mae dros 200 o erwau i'w harchwilio ym Mharc Gwledig Cwm Dâr. Dewch â'ch beic mynydd eich hun neu logi un i fynd ar lwybrau llawn cyffro Parc Beiciau Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd.

Crwydrwch y mynyddoedd rhewlifol sy'n amgylchynu'r parc i weld rhai o'r golygfeydd gorau – yn enwedig wrth i'r haul fachlud.

Dewch i wledda yn Caffe Cwtsh, ar y safle. Mae prydau'n cael eu gwneud ar y safle gyda chynnyrch ffres, lleol.

dvcpadventurenov

Penpych

Does dim geiriau i ddisgrifio’r olygfa – dim ond dau fynydd pen bwrdd sydd yn Ewrop a dyma un ohonyn nhw! Mae'r golygfeydd o gopa'r mynydd yn anhygoel, a hynny yn ystod y dydd, gyda'r nos, ac wrth i'r haul godi neu fachlud.

penypchnov

Beicio Mynydd

Mae gormod o lwybrau beicio ar ein mynyddoedd i'w rhestru! Peth call fyddai mynd ar eich beic a'u crwydro nhw!

Cadwch lygad allan am feysydd parcio Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n ddechreubwynt llwybrau i'r goedwigaeth ac i'r mynyddoedd. Mae'r briffordd dros y Bwlch yn un o rannau anoddach y ras Dragon Ride trwy Dde Cymru.

Cronfa Ddŵr Maerdy

Mae'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol a hen Ffordd Coed Morgannwg yn mynd trwy'r safle hanesyddol yma.

Mae modd i chi weld adfeilion Castell Nos o hyd. Credir i'r castell gael ei adeiladu gan Arglwyddi Cymreig Meisgyn, disgynyddion Iestyn ap Gwrgant, Brenin Cymreig olaf Morgannwg.

maerdynov

Llanwonno

Mae coedwigaeth Llanwynno yn llawn chwedlau. Cerddwch neu feicio trwy'r goedwigaeth i gyrraedd cronfa ddŵr Clydach a rhaeadrau Pistell Golau.

Mae tafarn y Brynfrynnon yn lle gwych i gymryd saib – cewch chi fwynhau golygfeydd gwych o'r dafarn hefyd.

Llanwonno scenery

Mynydd Bwlch

Mae'r mynydd yma'n llawn llwybrau cerdded – rhagor yma.

Mae hefyd yn fan gwych i fwynhau paned a hufen iâ.

bwlchnov

Canolfan Gweithgareddau a Beicio Cwad Cwm Taf

Mae tîm anhygoel y Ganolfan yma, sydd wedi'i leoli mewn ffermdy yng nghanol bryniau Cwm Taf, yn cynnig antur i chi.

Mae'n addas i grwpiau o bob maint ac mae llwybrau beicio cwad, cyfleusterau dringo, llwybrau cerdded bryniau, gweithgareddau cerdded ceunentydd, saethyddiaeth a llawer yn rhagor ar gael. Bydd y tîm yn trefnu llety hefyd i chi os bydd eisiau.

Canolfan Gweithgareddau a Beicio Cwad Cwm Taf