Skip to main content

Parc Gwledig Cwm Clydach

Gyda'i goedwig wyrdd eang a'i lynnoedd agored enfawr yn llawn bywyd gwyllt, mae'n anodd dychmygu bod Parc Gwledig Cwm Clydach wedi'i leoli ar adfeilion Glofa'r Cambrian.

Mae natur wedi ailfeddiannu un o'r ardaloedd gafodd ei mwyngloddio fwyaf yn y byd ac wedi creu paradwys awyr agored. Mae'r ardal yma'n berffaith ar gyfer teuluoedd, cerddwyr cŵn a beicwyr.

Mae modd ichi ddewis o sawl llwybr sy'n dechrau ger Caffi Lakeside ym Mharc Gwledig Cwm Clydach, gan ddibynnu ar y dwyster a'r pellter sydd orau gyda chi.

Dyma daith gerdded gymhedrol sy'n 5.3km o hyd. Bydd yn eich arwain chi o'r caffi o amgylch y "llyn isaf" mawr, ble mae gwyddau a hwyaid i'w bwydo, cyn mynd i fyny at y "llyn uchaf" sy'n fwy cuddiedig, ble efallai byddwch chi'n gweld Glas y Dorlan a Chrëyr Glas! Mae modd ichi ganfod y llyn cuddiedig yn y pen uchaf hefyd; mae rhaeadr yna wedi cawod o law.

Ar eich taith byddwch chi'n mynd heibio'r gofeb i'r dynion a bechgyn fu fawr yn Nhrychinebau Glofa'r Cambrian yn 1905 a 1965 a marciau'n dangos pa mor ddwfn oedd y pyllau glo. Dysgwch ragor am ein hanes glofaol a diwydiannol yn Nhaith Pyllau Glo Cymru.

Unwaith rydych chi wedi gorffen, gallwch chi fwynhau diod, pryd neu fyrbryd yng Nghaffi Lakeside y Cambrian. Mae teras yna'n edrych dros y llyn.

 

 

 the video.

Ble:Clydach Vale, CF40 2XX

Math:Medium walk

Gweld y llwybr
Gwylio fideo

Cysylltwch â ni

  • Cyfeiriad: Clydach Vale, CF40 2XX

Nodweddion

  • Food and drink on the way