Skip to main content

Llwybr Llafar Llantrisant

Wedi'i leoli yn nhref hyfryd Llantrisant a oedd yn gadarnle pwysig yn yr Oesoedd Canol, bydd y llwybr llafar yma yn rhoi cipolwg difyr i chi ar hanes Llantrisant.Mae'r llwybr yn eich tywys o gwmpas nifer o leoliadau allweddol, gan gynnwys cerflun y derwydd ecsentrig, Dr William Price, a gynhaliodd yr amlosgiad cyfreithiol cyntaf; Castell Llantrisant, a oedd ar un adeg 'gartref' i'r Brenin anffodus Edward II a gafodd ei garcharu yno.Bydd y daith gerdded 1.6km o hyd yn cychwyn ac yn gorffen ym Maes Parcio Gwaun Rhiw'r Perrai ac yn para tua 1 awr. Beth am ymweld â'r Llantrisant GuildHall, pori yn rhai o siopau'r dref a chael pryd blasus yn un o'r bwytai er mwyn treulio prynhawn cyfan yn y dref?Defnyddiwch daflen Llwybr Treftadaeth Llantrisant i gael gwybodaeth fanylach ar rannau allweddol y llwybr.Nodwch fod rhywfaint o dir anwastad, gan gynnwys rhai esgyniadau serth a disgyniadau yn Llantrisant. Efallai fydd y daith yma ddim yn addas felly ar gyfer cadeiriau gwthio neu gadeiriau olwyn, neu bobl â phroblemau symudedd.Lawrlwytho SainLawrlwytho PDF

Ble:Llantrisant, CF72 8DB

Math:Medium walk, Historic walk

Gweld y llwybr
Gwylio fideo

Cysylltwch â ni

  • Cyfeiriad: Llantrisant, CF72 8DB

Nodweddion

  • Food and drink on the way