Skip to main content

Amser ysgwyd cynffon - dyma syniadau i chi am fwytai a gwestai.

Os mai mynd am dro ar ben mynydd, crwydro mannau agored y sir, neu weld rhaeadrau sy'n mynd â'ch bryd chi, Rhondda Cynon Taf yw'r lle perffaith i gŵn ddod â'u perchnogion! Amser ysgwyd cynffon - dyma syniadau i chi am fwytai a gwestai.

Gwesty Neuadd Llechwen

Rhowch gyfle i'ch ci ymlacio mewn lleoliad moethus, a breuddwydio am redeg ar ôl cathod yn Neuadd Llechwen. Mae croeso i gŵn yn y gwesty gwledig yma, sydd yng nghanol cefn gwlad agored. Rhagor o wybodaeth

Llechwen Hall Hotel

Gwesty a Chlwb Iechyd Maenordy Meisgyn

Mae'r hen faenordy hanesyddol yma wedi'i leoli o fewn gerddi syfrdanol ac mae'r tu mewn yn well byth. Mae croeso mawr i'ch tywysog neu dywysoges bedair coes aros gyda chi yn y llety moethus yma. Rhagor o wybodaeth

miskin manor1

Gwesty Dunraven

Ar gopa'r Rhondda Fawr, dyma westy mewn lleoliad delfrydol i fwynhau antur gyda'ch cŵn.

O'r gwesty, mae modd mynd â'ch ci am dro trwy'r goedwig hynafol ac yn uchel i fyny'r mynyddoedd, gan gynnwys Pen-pych a Rhigos.

Mae ystod o ystafelloedd, man storio beiciau a bwyd arbennig ar gael o fore gwyn tan nos yma.

Gwesty Dunraven

Gwaelod Y Garth Inn

Yng ngardd y dafarn nodedig yma, mae tap cwrw (dŵr) ar gael ac mae croeso i gŵn aros dros nos yn rhai o'r ystafelloedd.

Mae Tafarn Gwaelod-y-garth wrth waelod Mynydd y Garth (mae taith gerdded i fyny'r mynydd gyda ni os oes diddordeb gyda chi) ym mhentref Ffynnon Taf, sef lleoliad ffilm Hugh Grant 'The Englishman Who Went Up A Hill And Came Down A Mountain'. Yn ôl y sôn, siop DIY y pentref oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer siop Arkwright yn 'Open All Hours". Rhagor o wybodaeth

Gwaelod Y Garth Inn Dog Friendly

Parc Gwledig Cwm Dâr

Dyma fan agored anhygoel arall sy'n llawn pethau i'w gwneud, eu gweld - a'u harogli! Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn gartref i Barc Beiciau Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd, y cyntaf o'i fath yn y DU. Mae'n cynnwys llwybrau beicio trwy'r mynyddoedd, trac pwmpio a chwrs beiciau ar gyfer plant bach. Mae modd llogi beiciau a manteisio ar wasanaeth teithio i fyny'r llwybrau mynydd hefyd.

Mae digonedd o lwybrau cerdded - beth am gerdded ger y llyn a mwynhau'r byd natur? Neu i'r rhai sy'n dymuno cynyddu curiad y galon, beth am fynd am dro yn uchel yn y mynyddoedd? Bydd digon o ymarfer corff i'r cŵn a'u perchnogion. Mae croeso mawr i gŵn yn Nghaffi Cwtsh – mae hufen iâ sy'n addas i gŵn yn y rhewgell bob tro!

Caiff cŵn aros yn y llety ar y safle ac ar y maes carafanau. Rhagor o wybodaeth

Dog friendly stay at Dare Valley Country Park. Pic from Arlo the Chocolate Cocker Spaniel on Instagram

Yr Hen Bopty

Mae’r bwthyn bach, twt yma ar lannau'r Afon Taf wedi’i adnewyddu i safon uchel ac mae mewn lleoliad gwych, o fewn pellter cerdded i Bontypridd a llawer o lwybrau cerdded a beicio. Rhagor o wybodaeth

bopty7