Lleoedd i aros mewn awyrgylch moethus
Ewch amdani! Mae gyda ni amrywiaeth anhygoel o leoedd i aros mewn awyrgylch moethus, sy'n cynnwys yr holl gyfleusterau modern diweddaraf, pyllau nofio, twbas twym a gerddi godidog.
Gwesty a Chlwb Iechyd Maenordy Meisgyn
Mae'r hen blasty yma'n dyddio yn ôl i'r 11eg ganrif ac mae wedi'i adnewyddu'n hyfryd i gynnig ystafelloedd sydd wedi'u dylunio'n unigol, gan gynnwys ystafelloedd gyda gwelyau â phedwar polyn. Rhagor o wybodaeth
Lanelay Hall
Neuadd Glan-elái yw'r lle i gael profiad moethus. Mae pob un o'i ystafelloedd wedi'u dylunio'n unigol, ac mae'r 'Tribe Spa', sydd ag ardaloedd dan do ac awyr agored, yn fendigedig. Dewiswch o dri dewis bwyta ffurfiol ac anffurfiol. Rhagor o wybodaeth
Llechwen Hall
Ac yntau'n blasty gwledig swynol ar un adeg, a bellach yn westy hamddenol, modern, mae Neuadd Llechwen yn swatio mewn amgylchedd hardd ac mae'n cynnwys 46 ystafell wely en-suite modern a helaeth sydd wedi’u dylunio’n dda. Rhagor o wybodaeth
St Alban's
Mae'r capel anferth yma wedi'i drawsnewid yn gartref gwyliau ac yn cysgu 10 ar draws pum ystafell wely. Rhagor o wybodaeth
Forest Lodge
Mae Forest Lodge wedi'i leoli'n uchel yng nghoedwigaeth Llantrisant gyda golygfeydd pellgyrhaeddol.
Gyda chwe ystafell wely, mae digon o le i hyd at 12 person aros. Yn ychwanegol, mae modd ymlacio neu nofio ym mhwll anfeidredd mwyaf Cymru.
Forest View
Mae’r llety hunanarlwyo moethus yma’n mwynhau tair erw o dir â golygfeydd godidog o’r ardal gyfagos. Rhagor o wybodaeth
Hafod Ganol Farm
Tŷ trawiadol yw Fferm Hafod Ganol sy'n cysgu 16 o bobl mewn wyth ystafell wely.
Mae'r tŷ yn olau sy'n denu digon o awyr drwyddi draw, gyda chegin ffermdy, ystafelloedd gwely mawr, lolfa gyda lle tân, ystafell gemau ac ystafelloedd ymolchi gyda thybiau ymolchi moethus a dwfn. Rhagor o Wybodaeth
Ty Ffarm
Mae croeso cynnes yn aros i chi yn y ffermdy yma o'r 16eg ganrif.
Mae'r ffermdy wedi'i drawsnewid yn westy eang a moethus ac mae ganddo olygfeydd godidog. Rhagor o wybodaeth