Caffi Cwtsh: Parc Gwledig Cwm Dâr.
Gallwch chi ddod o hyd i Caffi Cwtsh ger mynedfa Parc Gwledig Cwm Dâr.
Mae'r Caffi wedi'i enwi'n Cwtsh am fod croeso cynnes i ymwelwyr yn ogystal â phryd poeth!
Yn ychwanegol â gweini cinio a byrbrydau poeth ac oer, mae'r fwydlen yn y caffi yn cynnwys dewis eang o fwyd cartref cysurus megis pastai cig eidion tun a phastai caws a thatws.
Mae hufen ia a melysion ar gael hefyd ac mae te prynhawn yn cael ei weini ar y lledlawr.
Nodwch fod rhaid cadw lle ar gyfer te prynhawn.
Mae Cwm Dâr yn eithriadol o boblogaidd gyda'n cyfeillion sy'n cyfarth ac ymwelwyr, mae ardal gyfeillgar i gŵn hefyd.
Yn amlwg dydy cŵn ddim yn cael mynd i'r ardal chwarae o flaen y caffi, o ganlyniad, defnyddiwch fynedfa'r buarth wrth ymweld.
Ble: Aberdar, CF44 7PS
Math: Desserts, Take-away, Café