Skip to main content

Parc y Darren,

Parc Edwardaidd ydy Parc y Darren, a dyma ydy cartref Llyn y Forwyn, sy'n gysylltiedig â chwedl Gymreig.

 

Mae gan y parc glogwyni aruthrol sy'n sefyll uwchlaw'r coetir hynafol cyfagos. Mae yna nifer o lwybrau, gydag ardal hamdden ac ardal chwarae yn ogystal â digon o fannau i fwynhau picnic.

 

Mae cyfres o deithiau cerdded yn arwain i'r mynyddoedd o amgylch Parc y Darren, lle mae modd i chi fwynhau golygfeydd godidog dros Gwm Rhondda Fach, gan gynnwys yr "Old Smokey" enwog, sy'n weddill o'n diwydiant glo.

 

Mae Llyn y Forwyn wedi'i henwi ar ôl chwedl am forwyn hardd a drigai yn y llyn, a ymddangosodd o'r dyfroedd o flaen ffermwr lleol. Syrthiodd y ffermwr mewn cariad â hi yn syth bin. Gofynnodd iddi beth fyddai'n rhaid iddo ei wneud er mwyn iddi ei briodi. Ymatebodd y forwyn y byddai'n hi'n ei briodi, cyn belled na fyddai byth yn ei holi am ei gorffennol. Bu'r ddau fyw yn hapus nes iddo dorri'r addewid, ac felly fe wnaeth hi ei adael heb yr un geiniog, a dychwelyd i'r dyfroedd. Yn ôl y sôn mae modd i chi glywed y forwyn yn galw o'r llyn yn aml.

 

Erbyn heddiw, mae'r llyn yn fan pysgota poblogaidd, yn llawn carpiaid, draenogiaid llyswennod, penhwyaid a merfogiaid. Mae trwyddedau un diwrnod ar gael drwy Glwb Pysgota Llyn y Forwyn.

 

 

 

Club.

Ble: Ferndale , CF43 4HR

Math: Activities, Parks, Walking and Cycling

Cysylltwch â ni

  • Cyfeiriad: Ferndale , CF43 4HR

Nodweddion

  • Dogs welcome
  • Free parking
  • Great for history lovers