Distyllfa Wisgi Penderyn
Mae pentref bychan Penderyn, yng ngogledd Rhondda Cynon Taf, yn gartref i rywbeth annisgwyl.
Mae’r dŵr pur sy’n llifo o’r mynyddoedd nid yn unig yn creu’r rhaeadrau cyfagos ysblennydd, ond caiff ei defnyddio hefyd i greu un o wisgi gorau’r byd.
Distyllfa Wisgi Penderyn oedd y gyntaf o'i fath yng Nghymru ac fe gafodd ei hagor gan aelod o'r teulu brenhinol. Erbyn heddiw, mae modd i westeion fwynhau taith hynod ddiddorol ac unigryw y tu ôl i'r llen, i weld sut mae'r wisgi blasus yn cael ei greu.
Dewch i weld y felin, y tro stwnsh a’r broses sy'n helpu Penderyn i ennill gwobrau yn wyneb cwmnïau chwisgi grymus yr Alban ac Iwerddon.
Ar ddiwedd y daith, cewch chi flasu'r wisgi i chi gael profi pam fod Penderyn yn cael ei weini mewn bariau, lolfeydd a phartïon ar draws y byd – o Efrog Newydd i Singapore!
Mae Penderyn bob amser yn chwifio'r faner dros Gymru gyda balchder. Cafodd ei diodydd eu gweini mewn achlysur i groesawu Cymru i Gwpan y Byd Qatar ac mae cyn-gapten Cymru, Gareth Bale, yn noddwr.
Mae modd i chi hefyd brynu’r anrheg berffaith i chi’ch hun neu rywun annwyl yn y siop anrhegion. Cewch hefyd weld yr amrywiaeth arall o ddiodydd sy'n cael eu cynhyrchu gan Penderyn, gan gynnwys gin, fodca a gwirod hufen.
Ble: Penderyn, CF44 0SX
Math: Attractions, Activities