Gweithgareddau Grŵp y Mae Modd Cadw Lle Arnyn Nhw
Ydychchi'n edrych am syniadau am beth i'w wneud ar eich ymweliad â Rhondda Cynon Taf? Ewch am daith o dan y ddaear yn Nhaith Pyllau Glo Cymru neu ewch i ymyl Bannau Brycheiniog i flasu wisgi Cymreig.
Taith Pyllau Glo Cymru
Taith wedi'i lleoli ym mhwll glo olaf Cwm Rhondda, dyma atyniad y mae rhaid i ymwelwyr de Cymru ymweld â fe.
Profiad y Bathdy Brenhinol
Mae Profiad y Bathdy Brenhinol yn un o'r atyniadau TripAdvisor gorau yn Ne Cymru ac mae'n gyrchfan berffaith i grwpiau o bob oed. Dewis ymweld fel rhan o achlysur cymdeithasol, achlysur arbennig neu ar gyfer taith ddiwylliannol a hanesyddol, mae modd iddyn nhw ddarparu ar gyfer grwpiau o bob maint.
Distyllfa Penderyn
Yng nghanol rhaeadrau, rhostiroedd a bryniau, mae Distyllfa Penderyn yn cynnig ystod o deithiau – does dim rhaid i chi fod yn hoff iawn o wisgi i fwynhau dod yma!
Amgueddfa Crochendy Nantgarw
Mae Amgueddfa Crochendy Nantgarw yn croesawu grwpiau o hyd at ddeugain o bobl ar gyfer teithiau tywys gan gynnwys arddangosiadau gwneud porslen a phibellau. Mae'r daith yn cael ei harwain gan arbenigwyr preswyl Nantgarw sy'n rhoi cipolwg unigryw ar hanes y safle a'r crochenwaith i ymwelwyr.