Skip to main content

Lleoedd ymlaciol i aros ynddyn nhw

Ydych chi wrth eich boddau'n ymlacio a chael dianc i leoliadau ymlaciol? Y math o leoedd ble'r unig 'ffrwd gymdeithasol' fydd y nant gerllaw, a ble'r unig beth fydd yn trydar fydd yr adar? Yna mae gyda ni'r lleoedd delfrydol i chi!

Fernhill Valley Farm

Mewn cornel ddiarffordd o Gwm Rhondda mae maes glampio Fernhill Valley Farm.

Mae pedwar pod hunangynhwysol, pob un â'i ardal eistedd, cegin ac ystafell ymolchi ei hun.

Mae ganddyn nhw batios preifat gyda phyllau tân, felly mae croeso i chi fwynhau brecwast gyda'r wawr neu dostio malws melys o dan y sêr yn y nos.

Rhagor o Wybodaeth

Fernhill farm banner

Tunnel Cottages

Mae fferm hardd Blaen-Nant-Y-Groes ar ddiwedd dreif hir sy’n mynd heibio bythynnod Cwm-bach.

A hithau yng nghanol 15 erw o dir fferm a choetir, mae'n cynnig amrywiaeth o fythynnod hunanarlwyo a chwt bugail.

Rhagor o Wybodaeth

 

tunnel get away

Dare Valley Country Park

Stay in your caravan, motorhome or campervan (no tents sorry) amid 500 acres of stunning scenery at Dare Valley Country Park. Find out more

Dare Valley Country Park

Bird's Farm

Mae llety Bird's Farm wedi'i leoli yng nghanol golygfeydd godidog a bydd sêr i'w gweld o'ch cwmpas gyda'r nos.

Cewch chi ddewis aros yn Harri neu Hetty, hen gerbydau cludo ceffylau, neu yn Dolly, hen fws deulawr. Mae'r tri bellach wedi'u trawsnewid yn llety cyfforddus.

Caiff grwpiau mwy aros yn Nhŷ Aderyn neu The Stables. Rhagor o wybodaeth

birds farm blog

Hafod Ganol Farm

Tŷ trawiadol yw Fferm Hafod Ganol sy'n cysgu 16 o bobl mewn wyth ystafell wely.

Mae'r tŷ yn olau sy'n denu digon o awyr drwyddi draw, gyda chegin ffermdy, ystafelloedd gwely mawr, lolfa gyda lle tân, ystafell gemau ac ystafelloedd ymolchi gyda thybiau ymolchi moethus a dwfn. Rhagor o Wybodaeth

hafod7

Ty Ffarm

Mae croeso cynnes yn aros i chi yn y ffermdy yma o'r 16eg ganrif.

Mae'r ffermdy wedi'i drawsnewid yn westy eang a moethus ac mae ganddo olygfeydd godidog. Rhagor o wybodaeth

TY Ffarm 3

Llechwen Hall

Ac yntau'n blasty gwledig swynol ar un adeg, a bellach yn westy hamddenol, modern, mae Neuadd Llechwen yn swatio mewn amgylchedd hardd ac mae'n cynnwys 46 ystafell wely en-suite modern a helaeth sydd wedi’u dylunio’n dda. 

Rhagor o wybodaeth

Llechwen Hall Hotel

Miskin Manor Hotel and Health Club

Mae'r hen blasty yma'n dyddio yn ôl i'r 11eg ganrif ac mae wedi'i adnewyddu'n hyfryd i gynnig ystafelloedd sydd wedi'u dylunio'n unigol, gan gynnwys ystafelloedd gyda gwelyau â phedwar polyn.

Rhagor o wybodaeth

miskin manor 2

Falcon Inn Retreat

Mae saith ystafell wely en-suite yn y Falcon Inn Retreat gan gynnwys ystafelloedd teulu ac ystafelloedd sy'n croesawu cŵn, ac mae gan rai ystafelloedd olygfeydd o'r afon a balconïau.

Rhagor o wybodaeth

falcon inn5