Haul yn codi ac yn machlud
Does dim ffordd well o ddathlu dechrau diwrnod newydd cyffrous – neu ddiwedd diwrnod gwych – na thaith gerdded. Mae mynyddoedd yn lle perffaith i wylio'r haul yn codi ac yn machlud. Ewch â fflasg o de poeth, ac ewch i grwydro!
Bydd pawb wrth eu boddau â golygfeydd o Fynydd Rhigos a Mynydd y Bwlch.
Mae'r ddau fynydd yn wych i deuluoedd gan fod modd gyrru i'r copa, ac mae cilfachau parcio hygyrch ar gael hefyd.
Ewch am dro trwy Goedwig Llanwynno (dyma'r llwybr), dewch o hyd i'r rhaeadr gudd ac arhoswch i'r haul fachlud i gael profiad hudol.
Hugh Grant oedd seren ffilm “The Englishman Who Went Up A Hill, But Came Down A Mountain”, ond Mynydd y Garth, ysbrydoliaeth y ffilm, oedd y seren go iawn. Ewch ar hyd llwybr Mynydd y Garth o Ffynnon Taf (dyma'r map) i weld machlud haul hardd.
Cerddwch yn uwch ac edrychwch i lawr ar dai teras y Cymoedd sydd i'w gweld wrth ochr y mynydd yng Nghwm Clydach a byddwch chi'n cyrraedd copa Mynydd y Bwlch mewn dim o dro. Mae modd gweld y llwybr cerdded i fyny Mynydd Cwm Clydach yma. Dyma enghraifft o'r olygfa y bydd modd i chi ei gweld
Pwy sy'n mwynhau syllu ar liwiau'r awyr, yn ogystal â dysgu am hanes?
Llantrisant yw'r lle perffaith i chi! Mae gan y dref yma, sydd ar ben bryn, gastell, neuadd y dref o'r 13eg Ganrif a chwedlau, mythau a straeon arswydus o ganrifoedd maith yn ôl.
Ymgollwch mewn hanes trwy ddefnyddio'r llwybr llafar neu'r llwybr cerdded, yna ymunwch â Llwybr y Comin i fynd i weld Billy Wynt, hen felin wynt gyda golygfa anhygoel. (llwybr yma
Roedd Aberdâr, tref hanesyddol o ddiwydiant, creadigrwydd ac angerdd, yn cael ei galw'n Frenhines y Cymoedd. Dyma leoliad yr Eisteddfod fodern gyntaf. Dysgwch ragor yn Amgueddfa Cwm Cynon. Mae'r llun yma o fachlud haul o fynydd Aberdâr yn dangos y dref yn ei gogoniant.
Mae'r llun yma o'r haul yn machlud dros Benrhiwceiber yn cyfleu llonyddwch diwedd diwrnod hir. Mae modd dychmygu synau amrywiol y cartrefi yma – sgyrsiau'r bobl sy'n byw yno, y ceir, plant yn chwarae, cŵn yn cyfarth. Yna daw tawelwch wrth i'r haul ddechrau machlud.
Mae'r nofwyr gwyllt wedi deffro cyn i'r haul godi! Yn aros i weld haul ac awyr las.