Cylchol Pontypridd
Mae Taith Gylchol Pontypridd yn daith gron 12 milltir i fyny ac o gwmpas rhai o'r golygfeydd harddaf yn Ne Cymru, gan gynnwys safleoedd hanesyddol a lleoedd gwych i fwyta ac yfed.
Mae ymgymryd â'r llwybr mewn un tro yn her go iawn, ond y peth gorau am y llwybr yw bod modd ymuno ar unrhyw bwynt a cherdded mor bell ag yr hoffech chi! Dilynwch yr arwyddion i unrhyw gyfeiriad am dro 360 o amgylch Pontypridd a'r cyffuniau.
Un pwynt sy'n cael ei argymell i ddechrau’r daith yw'r Llanover Arms hanesyddol, tafarn hynaf y dref. Dilynwch y llwybr i fyny ac ar hyd Comin Pontypridd, lle gallwch chi weld y Garreg Siglio hanesyddol a Chylch yr Orsedd gyda golygfeydd dros Barc Coffa Angharad a Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty.
Ewch i fyny Heol Eglwysilan a'r mynydd gan stopio i fwynhau golygfeydd dros y dref a'r Graig.
Ar bwynt uchaf y llwybr, mae modd i chi weld mor bell â Phen y Fan a Bannau Brycheiniog, a pharhau at Bwynt Trig, sy'n cynnig golygfeydd dros Sianel Bryste, Ynys Echni ac Ynys Ronech ar ddiwrnod clir.
Parhewch drwy Drefforest a Ffynnon Taf gan fwynhau'r gored. Mae atyniadau lleol yn cynnwys Amgueddfa Crochendy Nantgarw, sef crochendy hynaf y DU, lle'r oedd porslen cain a gafodd ei ddefnyddio gan y brenhinoedd yn cael ei greu. Mae'n daith ddiddorol ac mae modd mwynhau paned yn yr ystafelloedd te i'w mwynhau.
Cerddwch yn ôl tuag at Bontypridd gan stopio yn yr Otley Arms, sydd wedi ennill sawl gwobr am ei ginio Sul - ac mae microfragdy ar y safle.
O'r fan hyn, cerddwch trwy'r Graig ac i fyny at Drehafod ac i lawr i Barc Gwledig Barry Sidings, sydd â chaffi arbennig, llynnoedd, ardal chwarae i'r plant a rhagor.
Dewch o hyd i Daith Pyllau Glo Cymru yn Amgueddfa Parc Treftadaeth y Rhondda gerllaw. Yng nghysgod cyn-lofa Lewis Merthyr, mae'r profiad arobryn yma'n mynd â chi ar daith yn ôl mewn amser gyda dynion a oedd yn gweithio fel glowyr pan oedden nhw'n fechgyn.
Byddan nhw'n rhannu eu straeon personol ac atgofion gyda chi. Mae'r arddangosfeydd digidol yn dod â hanes y diwydiant a wnaeth siapio'r tirweddau rydych chi'n eu harchwilio yn fyw. Mae Caffi Bracchi ar y safle'n gweini diodydd twym ac oer, prydau bwyd, byrbrydau a chacennau arbennig!
Byddwch chi'n cerdded yn ôl i ganol y dref gerllaw'r Hen Bont eiconig, a oedd ar un adeg yn cael ei hadnabod yn bont rhychwant sengl hiraf y byd.